Senedd Cymru | Welsh Parliament 
 Ymchwil y Senedd | Senedd Research 
 Cyllid gofal plant dros 9 mis oed
 Y Pwyllgor Deisebau | 26 Ionawr 2026
 Petitions Committee | 26 January 2026
 CyfeirnodRS25/12887-5
Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-06-1556

Teitl y ddeiseb: Cyllid gofal plant ar gyfer rhieni sy'n gweithio pan fydd eu plant dros 9 mis oed

Geiriad y ddeiseb: Dylid galluogi rhieni i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl i’w plant droi’n 9 mis oed. Ar hyn o bryd, nid oes cyllid ar gael nes eu bod yn 3 blwydd oed.

Yn dibynnu ar gymhwysedd, gan gynnwys oedran, mae amrywiaeth o gymorth gofal plant ar gael yng Nghymru, ac a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae'n cynnwys Cynnig Gofal Plant Cymru, Dechrau'n Deg a’r ddarpariaeth 'addysg y blynyddoedd cynnar'.

Gofal Plant Dechrau'n Deg yw'r unig un o'r rhain sydd ar gael i blant 2 flwydd oed. Caiff y gofal hwn ei ddarparu gan awdurdodau lleol unigol ac nid yw wedi'i gyflwyno'n llawn eto i roi cynnig i bob plentyn 2 flwydd oed ledled Cymru.

Mae papur y Gweinidog mewn ymateb i'r ddeiseb hon yn dweud:

Mae ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu yn dilyn etholiadau diwethaf y Senedd yn 2021 - i "fynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn dwy oed. Fodd bynnag, fel y gwyddoch, yn ystod cyfnod y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru derbyniwyd na fyddai hyn yn cael ei gwblhau yn nhymor hwn y Senedd. [ein pwyslais ni yw y print trwm]

Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen we am gymorth gyda thalu am ofal plant. Rhaid i bob awdurdod lleol gael Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am ddim i helpu a chynghori rhieni ar opsiynau gofal plant yn ei ardal.

1. Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

1.1. Gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy flwydd oed

Yn ei Chytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i ymestyn gofal plant Dechrau'n Deg er mwyn ehangu’n raddol y ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn 2 flwydd oed. Mae y modd y mae hyn wedi'i gyflwyno hyd yma yn amrywio yn ôl awdurdod lleol.   

Yn ei ymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd y Gweinidog:

Mae ein rhaglen Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant o safon wedi'i ariannu'n llawn i rieni pob plentyn dwy oed cymwys am ddwy awr a hanner y dydd, pum niwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. Mae Dechrau'n Deg yn defnyddio sesiynau gofal plant amlach a byrrach ar gyfer plant iau, gan fod y dystiolaeth yn dangos mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol, yn enwedig ar gyfer plant difreintiedig. […] Mae’r ddau awdurdod lleol cyntaf – sef Merthyr ac Abertawe – bellach wedi cyhoeddi eu bod wedi gallu cynnig gofal plant Dechrau’n Deg i bob plentyn dwy flwydd oed.

Mae Gofal Plant Dechrau'n Deg yn wahanol i'r Rhaglen Dechrau'n Deg lawn, gan fod tair elfen arall i’r Rhaglen lawn ac mae ar gael o fewn ardaloedd daearyddol diffiniedig.

1.2. Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru y Llywodraethyn darparu hawl  i 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn i blant 3 a 4 blwydd oed rhieni sy'n gweithio cymwys a rhai rhieni sydd mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’r ddarpariaeth 30 awr yr wythnos yn cynnwys:

§    o leiaf 10 awr o addysg y blynyddoedd cynnar (gweler isod); a

§    hyd at 20 awr o ofal plant.

Gan ddibynnu ar y darparwyr, gall rhieni ddefnyddio oriau gofal plant a ariennir ar unrhyw adeg yn ystod wythnosau gwyliau, ddydd neu nos, gan gynnwys ar benwythnosau.

1.3. Deg awr o addysg y blynyddoedd cynnar

Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i gynnig a darparu addysg feithrin ddigonol yn ddi-dâl ar gyfer pob plentyn yn ei ardal gan ddechrau yn y tymor cyntaf ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 3 oed hyd at fis Medi ar ôl i’r plentyn droi’n bedair oed. Er mwyn cyflawni'r ddyletswydd hon, rhaid i awdurdodau lleol gynnig o leiaf 10 awr am 39 wythnos ar gyfer pob plentyn, waeth beth fo statws cyflogaeth ei rieni. Os oes gan blant hawl i'r Cynnig Gofal Plant (gweler uchod) ychwanegir at yr hawl y blynyddoedd cynnar hon i ddarparu 30 awr.

1.4. Y sefyllfa yn Lloegr o ran cymorth gofal plant ledled y DU.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn darparu rhywfaint o gymorth ariannol sydd ar gael i rieni yng Nghymru, sy’n ddibynnol ar gymhwysedd. I rieni sy'n gweithio, y Cynllun gofal plant di-drethyw hwn fel arfer. Mae cyfrifiannell gofal plant Llywodraeth y DU yn adnodd sy’n helpu rhieni i wirio pa gymorth posibl sydd ar gael tuag at dalu costau gofal plant.  

Yn aml, mae cymariaethau yn cael eu gwneud  rhwng y cynigion gofal plant di-dâl yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae hyn yn wedi cynyddu yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth flaenorol y DU yn 2023 i ddarparu gofal plant am ddim i blant rhieni sy’n gweithio cymwys o naw mis oed ymlaen erbyn 2025. Mae papur briffio Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn darparu rhagor o wybodaeth. Ehangu gofal plant a ariennir gan y llywodraeth yn Lloegr.

Mae papur y Gweinidog, mewn ymateb i'r ddeiseb hon, yn dweud:

O ran ehangu gofal plant yn Lloegr, mae adroddiadau y gall ehangu cyflym heb ddigon o weithlu a seilwaith arwain at brinder lleoedd mewn rhai ardaloedd, a phryderon ynghylch ansawdd, – rydym yn benderfynol o osgoi hynny. Mae ein dull graddol yn adlewyrchu'r hyn rydym wedi'i ddysgu am bwysigrwydd cynaliadwyedd ac ansawdd fel rhan o unrhyw ehangu arfaethedig.

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cynnal gwaith craffu ar y ddarpariaeth gofal plantyn ystod y Chweched Senedd hon gan gyhoeddi dau adroddiad.

§    Gwarchod y Dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio 2022

§    Eu Dyfodol: Ein blaenoriaeth?2024

Yn ystod y Chweched Senedd, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried nifer o ddeisebau ynghylch gofal plant gan gynnwys:

§  Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024

§  Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â’r hyn sydd ar gael yn Lloegr

§  Creu, ariannu a chynnal digon o leoedd meithrin a gofal plant fforddiadwy i bob rhiant sy’n gweithio

Gwrthododd hefyd y deisebau a ganlyn, gan fod deiseb am y mater hwn eisoes ar waith pan gyflwynwyd y deisebau hyn:

§  Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed

§  Rhoi Gofal Plant Teg i Rieni Cymru: Ymestyn oriau am ddim o 9 mis, nid dim ond 3 oed

§  Gofal plant am ddim am 30 awr yr wythnos i blentyn 9 mis oed hefyd i rieni sy'n gweithio yng Nghymru

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.